Bluebird
Bluebird yw’r dwten fach hon, ci tarw Ffrengig (French Bulldog) aeddfed a roddwyd i ni mewn cyflwr truenus iawn. Druan â’r ferch hon a chafodd ei thrin mor wael gan bobl. Roedd hi’n llawer rhy ysgafn o ran ei phwysau ac yn dioddef o groen tost iawn sydd bellach yn cael ei drin.
Yn anffodus, gadawyd ei chlustiau heb eu trin sydd wedi peri iddi orfod cael meddyginiaeth er mwyn rheoli’r cyflwr.
Mae Bluebird yn gariad; bydd angen cartref lle mae rhywun o gwmpas y rhan fwyaf o’r amser tra’i bod hi’n gwella.
Mae ganddi anian chwareus ac mae hi’n cerdded yn wych.
Hoffem i Bluebird anghofio’i gorffennol ac edrych ymlaen at ddyfodol hapus.
Bydd Bluebird yn medru cael ei maethu o dan amodau meddygol; unwaith y bydd y milfeddyg yn hapus gyda’i hadferiad yna gellir ei hailgartrefu’n swyddogol.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Bluebird. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.