Mae Deb tua 3 oed, mae hi’n faint canolig ac mae ganddi strwythur corff trwm.
Cyrhaeddodd ein gofal fel strae ac ni chafodd ei hawlio erioed. Mae angen rhywun ar Deb fydd yn ei chwtshio, mae hi wrth ei bodd â chael sylw. Mae Deb yn cerdded yn dda ar y tennyn ond nid yw’n hoff o’r glaw. Felly bydd yn hapus yn diogi a chwarae gemau dan do nes iddo beidio. Dydy hi ddim yn codi’n gynnar, mae hi’n hoffi cysgu.
Ond unwaith mae hi wedi deffro, mae’n hi’n barod i fynd. Mae hi’n ferch athletaidd, ond mae angen ei hatgoffa o hynny ar adegau!
Mae Deb yn chwilio am gartref lle gall hi fod yr unig dywysoges. Mae hi’n gweithio’n galed ar ei sgiliau cymdeithasol ond bydd angen hyfforddiant arni i’w helpu i symud ymlaen ymhellach.
Gallai Deb o bosibl fyw gyda phlant sy’n 16 oed neu’n hŷn.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Deb. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.