Eric yw’r llanc hardd hwn. Daethpwyd ag ef i’n gofal ar ôl i’n warden lwyddo i’w ddarbwyllo i ymddiried ynddo ac yna ei gludo i ddiogelwch. Roedd Eric druan wedi cael ei weld yn crwydro ar ei ben ei hun ers wythnosau lawer cyn iddo allu cael ei ddal yn ddiogel.
Yn ddealladwy ddigon, roedd Eric yn ofidus pan gyrhaeddodd yma gyntaf; mae ei hyder yn cynyddu’n ddyddiol ac mae bellach yn dangos awydd i chwarae yn ystod troeon ar ôl iddo setlo.
Rydym wedi ei gyflwyno i lawer o bobl a llefydd newydd. Mae’n chwalu pob her.
Mae rhagor o waith i’w wneud gydag Eric, ond mae’n mynd i’r cyfeiriad iawn. Mae angen cariad a chysondeb gan ei deulu newydd er mwyn ei helpu i ragori. Gall Eric fynd i banig o hyd os yw’n cael ei lethu gan yr amgylchedd neu’r sefyllfa, felly mae angen ei drin mewn modd diogel neu fel arall fe all ddianc a ffoi. Byddai gardd gaeedig braf yn addas a hyfryd ar ei gyfer.
Bydd angen amser ar Eric i addasu, a bydd angen cadw ei feddwl yn brysur. Byddai’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i fagu hyder. Teimlwn y byddai’n mwynhau dosbarth ystwythder, ynteu rhywbeth tebyg.
Credwn y gallai, o bosib, fyw gyda phlant pwyllog a digynnwrf, cŵn eraill wedi eu hysbaddu a chathod.
Bydd pob cyflwyniad yn cael ei wneud yn y ganolfan.
Mae Eric yn fachgen mor hyfryd, gobeithiwn nad yw’n gorfod aros yma’n rhy hir. Os ydych yn caru cŵn defaid Collie byddwch yn caru Eric.
Comments are closed.