Mae Ollie y Staffie croesryw yn 9 oed.
Mae’n gi strae heb ei hawlio a roddwyd i’n gofal.
Mae Ollie yn gi sydd wedi newid ers cyrraedd, mae’n gerddwr gwych, mae wrth ei fodd yn chwilota. Mae bellach yn barod i ddod o hyd i’w gydymaith cerdded. Mae Ollie yn dipyn o sgwrsiwr, mae’n hoffi gwneud pobl yn ymwybodol o’i bresenoldeb. Mae’n gymaint o hwyl.
Mae’n gweithio mor galed ar ei sgiliau cymdeithasu, mae’n ymdrechwr gwych mewn hyfforddiant am ei fod yn gwneud unrhyw beth am rywbeth blasus. Bydd Ollie yn gwrando ar bob gair rydych chi’n ei ddweud. Ei hoff air yw “Walkies”.
Byd angen cartref egnïol ar Ollie, mae’n hoffi byw bywyd cyflym.
Mae’n dysgu sut mae arafu ac ymlacio.
Bydd angen ei gofrestru ar ddosbarthiadau hyfforddi i’w helpu i symud ymlaen ymhellach gyda thechnegau cymdeithasu a thawelu.
Unwaith y bydd Ollie cipio eich calon, bydd yn ffrind gorau i chi am weddill ei oes.
Gallai o bosibl fyw gyda chi benywaidd arall sydd yn dawel.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Ollie. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.