Bully ifanc yw Phyllis sydd tua 3 oed. Ar ôl cyrraedd roedd hi, yn ddealladwy, yn poeni am ei hamgylchedd newydd. Daeth Phyllis at ei hun yn fuan iawn wrth i ni ei llwgrwobrwyo gyda danteithion blasus a chrafu ei phen-ôl.
Mae Phyllis wedi troi cornel, mae hi bellach yn gi hapus, mae’n wych ei gweld yn rhuthro o gwmpas ac yn chwarae. Mae ganddi ffordd i fynd o hyd, ond gallwn weld gwahaniaeth bob dydd.
Mae gan Phyllis glustiau arbennig, maen nhw bron yn edrych yn rhy fawr iddi!
Mae’n ymddwyn yn dda ar dennyn, mae’n cymryd amser i ddechrau gan ei bod yn dal i weithio ar ei hyder. Mae angen amynedd ac amser.
Unwaith y bydd cyswllt wedi ei greu gyda hi, bydd yn gwneud cydymaith gwych yn y cartref cywir.
Cartref tawel fyddai orau i Phyllis, gan fod angen amser arni i addasu, ni ddylai gymryd yn hir iddi, unwaith y bydd yn sylweddoli bod ei bywyd bellach yn un gwell. Gallai hi fyw gyda phlant 16+ a chŵn eraill sydd wedi eu hysbaddu, sydd yn dawel.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Phillys. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.