Mae Renee, ci tarw ‘Frenchie’, yn chwilio am gartref arbennig, un sy’n gallu ymrwymo i’w hanghenion cymdeithasu. Yn anffodus mae Renee wedi bod trwy gymaint o drawma nes ei bod hi’n cael trafferth gyda gorbryder a ffocws. Ar hyn o bryd mae hi’n treialu cwrs o feddyginiaeth ymdawelu. Mae hi’n ymateb yn dda ac mae’n ymddangos ei bod yn gallu ymlacio a dadflino llawer haws.
Mae Renee yn cael trafferth gyda’r amgylchedd y tu allan. Nid yw ei meddwl yn gwybod sut i ymdopi â’r holl or-ysgogiad.
Mae Renee yn gweithio’n galed ac wedi bod yn mwynhau rhedeg mewn clostir mawr i gael bach o hwyl a llosgi stêm.
Mae Renee angen cartref mewn lleoliad gwledig, rhywle ymhell o ffyrdd swnllyd, heb unrhyw bobl na chŵn yn mynd heibio.
Hi yw’r gwestai tŷ perffaith. Mae’n gi mor hyfryd sy’n llawn cariad.
Mae Renee a’i maethwr wedi bod yn gweithio’n galed i’w hyfforddi.
Bydd Renee yn gallu ffynnu yn yr amgylchedd iawn. Merch y wlad yw hi yn y bôn, nid y ddinas!
Os ydych chi’n chwilio am gydymaith, un sydd angen rhywfaint o addasu ac wrth ei bodd mewn amgylchedd tawel, Renee yw’r un i chi.
Mae Renee wrth ei bodd yn cerdded ond mae angen man cerdded tawel arni fel y gall archwilio heb yr holl synau annisgwyl.
Bydd angen sawl ymweliad ar Renee a’i phontio’n araf i’w bywyd newydd. Rhaid i berchenogion fod yn barod i deithio a dangos ymrwymiad ar ei chyfer. Bydd hi’n bendant yn werth chweil.
Pwy sy’n gallu dweud na wrth ei hwyneb bach hi!
Comments are closed.