A wnewch chi groesawu Tango i’r gwesty os gwelwch yn dda? Daethpwyd â’r ferch ifanc hon i’n gofal ar ôl iddi gael ei chanfod yn crwydro ger ffordd brysur.
Cyrhaeddodd Tango gydag ychydig o grafiadau arni. Roedd hi’n gariad yr eiliad y cyrhaeddodd hi. Roedd hi wastad yn barod i gael maldod.
Gallai Tango fyw gydag anifeiliaid anwes eraill sydd â lefelau egni tebyg iddi hithau, o bosib.
Mae ganddi foesau da wrth gerdded ar dennyn; mae Tango yn ymatebol iawn i hyfforddiant gyda thameidiau blasus. Credwn y buasai’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn gwneud rhagor o gynnydd gyda’i dysgu.
Mae Tango yn ifanc, yn egnïol, yn llawn cariad ac yn hynod o brydferth.
Pwy na fyddai’n dymuno bod yn gyfaill iddi?
Comments are closed.