Tempa yw’r dwten fach ddel hon. Mae hi’n gi tarw Ffrengig (French bulldog) a gyrhaeddodd i’n gofal oherwydd ei bod wedi ei darganfod yn crwydro. Ar ôl cyrraedd yma roedd hi’n ofnus iawn ac eisiau cael ei magu fel ei bod hi’n teimlo’n ddiogel. Fe wnaethon ni sicrhau ei bod hi’n gyfforddus. O’r diwedd dechreuodd Tempa ymlacio. Mae Tempa yn ferch addfwyn ei natur; mae ei hyder yn cynyddu bob dydd ac mae hi hyd yn oed wedi llwyddo i ddod o hyd i ffrind gorau.
Mae’n debyg y byddai Tempa yn elwa o fyw gyda chi arall, un a fydd yn gallu ei helpu i ymgartrefu yn ei chartref parhaol a’i dysgu sut mae byw bywyd mewn steil! Mae llawer o anturiaethau a chwtsys ar hyd y ffordd.
Mae Tempa yn aros am lawdriniaeth i gywiro ei llygad cherry eye. Bydd hyn yn cael ei wneud gan ein milfeddygon ni. Bydd Tempa yn medru cael ei maethu ar delerau meddygol gyda’i theulu newydd wrth iddi aros am ddyddiad y llawdriniaeth. Unwaith y bydd y llawdriniaeth wedi’i chwblhau a’r milfeddyg yn sicr bod Tempa wedi gwella’n llwyr, yna bydd modd i’r ailgartrefu fod yn swyddogol.
Comments are closed.