Xena yw’r ci hardd hwn. Mae hi tua 6 mis oed, ac fe gyrhaeddodd i’n gofal ar ôl iddi fod yn crwydro.
Mae Xena yn perthyn i’r grŵp brîd tarw nodweddiadol, yn llawn cariad a rhialtwch llwyr. Dangosodd Xena ddiddordeb mawr o ran dysgu pethau newydd. Bydd angen i’w theulu newydd fynychu dosbarthiadau hyfforddi rheolaidd gyda hi i’w helpu i ddod yn aelod soffistigedig o gymdeithas!
Byddai’n elwa o gael brawd neu chwaer fawr; un all ei rhoi hi ar ben ffordd trwy ddysgu sgiliau ymddwyn yn briodol iddi. Mae Xena yn ferch sy’n llawn cariad, ac mae hi eisiau dangos hynny trwy rhoi llawer o faldod i chi. Cred hi hefyd ei bod yn gi bach all eistedd ar eich côl!
Bydd angen i unrhyw gŵn eraill yn y cartref fod yn wydn ac yn llawn egni. Gall y ferch hon chwarae am oriau, gemau ymaflyd codwm – a mynd dros ben llestri yw ei hoff beth.
Gallai o bosibl fyw gyda phlant hŷn sy’n parchu ei gofod ac sydd wedi arfer â chwarae bridiau tarw.
Byddai angen i unrhyw gŵn yn y darpar cartref fod wedi eu hysbaddu.
Bydd Xena yn tyfu’n fawr erbyn iddi fod yn oedolyn; mae profiad gyda bridiau mawr yn hanfodol yn ogystal â bod â’r hyder i ymdrin â nhw.
Rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid iddi aros yn hir i ddechrau pennod nesaf ei bywyd. Mae ei harddwch mor atyniadol!
Comments are closed.