Mae Cherrry yn ‘staffie’ hardd iawn sydd tua 2 flwydd oed. Pan gyrhaeddodd y gwesty mi oedd Cherry yn dawel iawn ac fe gymrodd ambell i ddiwrnod i setlo a chyfarwyddo gydag ei chartref newydd.
Mae Cherry erbyn hyn wedi datblygu yn gi mwya cariadus .Mae ganddi wen ‘staffie’ enfawr ac wir yn gi annwyl iawn.
Mae’n arsylwi mwy erbyn hyn pan allan yn cerdded ac yn awr yn mwynhau pob profiad. Mae Cherry wrth ei bodd yn chwarae gydag ei thegannau ac mae’n bownsio o gwmpas fel unrhyw gi bach hapus. Mae hefyd yn hyfryd wrth chwarae.
Fe fyddai Cherry yn elwa o fynychu gwersi ymarfer yn enwedig i helpu gydag ei hyder.
Fe fyddai’n bosibl y y gall byw gyda phlant hyn e.e.14+ sy’n parchu bod angen ei gofod ei hunan arni ac hefyd cwn eraill o faint tebyg eu maint a chymeriad.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Cherry. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.