Os gwelwch yn dda croesawch Capten Jax i’r gwesty. Mae Jax yn Jack Russell sydd newydd troi yn flwydd oed.
Mae Jax yn anhygoel o fisi ac wrth ei fodd yn archwilio ac yn mwynhau anturiaethau. Mae ganddo natur mor ddiriedus ac yn mwynhau pob dim.
Mae Jax yn chwilio am gartref sy’n cynnig anturiaethau di-ri a llawer o gariad. Mae Jax yn fachgen bach clyfar iawn a byddai wrth ei fodd yn gwneud rhyw fath o weithgareddau sy’n hybu hyn. Mae wrth ei fodd yn defnyddio ei ymenydd i gadw e’n fisi.
Mae Jax yn llawn brwdfrydedd ac yn llawn egni! Yn wir yn ffrind arbennig.
Mae Jax yn sbesial iawn ac yn wir yn berffaith i unrhyw un sy’n dwlu am y brid.
Comments are closed.