Enw’r chwirligwgan bach yma yw Malone, mae e’n ‘bulldog’ Ffrengig ifanc ac wedi dod atom yn ddi-berchennog. Mi oedd dan ei bwysau arferol a thueddiad i fod yn swil.
Setlodd i lawr yn eithaf cyflym, a does dim problem gyda Malone i wneud ei hunan yn gartrefol iawn.
Dysgom yn gyflym bod Malone wrth ei fodd yn anturio ac o gofio bod ganddo coesau byrion mae e yn fywiog iawn ac yn llawn egni. Mae e wedi magu pwysau a nawr mae’n gweithio ar adeiladu ei gyhyrau.Mae Malone wrth ei fodd yn chwarae a phel gyda pheli tenis yn ffefryn. Mi wneith unrhyw beth i gael y bel.
Mae Malone yn dda iawn ar y llinyn ac yn ddi-ffwdan iawn pan allan yn chwarae a darganfod pethau newydd. Fe fydd wrth gwrs yn arsylwi yr hyn sy’n digwydd o’i amgylch ond yn gwbl di- ymateb.
Mae’n bosib iawn y byddai’n gallu byw gyda phlant ac anifeiliaid anwes sydd wedi eu sbaddu..
Fe fyddai hyn wrth gwrs yn dilyn cyflwyniadau yn y ganolfan.
Comments are closed.