Mae Buster yn groes ‘Staffie Labrador’. Fe gyrhaeddodd ni ar ol i’w berchennog farw. Mae e’n fachgen hapus iawn sy’n llawn egni. Ar hyn o bryd mae Buster yn derbyn triniaeth i’w glustiau. Mae’n ymateb yn dda iawn a’r gobaith yw y bydd yn gwella’n llwyr.
Mae’n cymryd pob dim yn ei dro , mae’n archwilus ac yn hynod o glyfar. Fe allai Buster elwa o hyfforddi barhaol i helpu ef i ffocusi, weithiau mae’n anghofus oherwydd y pethau diddorol sydd o’i amgylch.
Teimlwn y byddai Buster yn elwa o gartref gydag oedolion yn unig gan ei fod mor gariadus ac yn anymwybodol o’i faint.
Mae Buster wrth ei fodd i fod yn fisi ac yn mwynhau anturiaethau. Petai dim diddordeb gennych yn hyn plis peidiwch a holi.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Buster. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.