Hunter yw’r cochyn golygus hwn. Husky ifanc yw e’ a gyrhaeddodd i’n gofal gan ei fod wedi’i ganfod ar grwydr. Wedi iddo gyrraedd atom roedd hi’n amlwg nad oedd Hunter wedi cael y dechrau gorau i’w fywyd ifanc gan ei fod yn dioddef o ddiffyg maeth â’i got yn anniben iawn.
Mae Hunter wedi ymgartrefu’n dda; mae’n ffefryn gyda staff a gwirfoddolwyr. Mae ganddo bersonoliaeth ‘smala a bydd yn siŵr o’ch gwneud i chi chwerthin. Mae Hunter wedi deall y bydd yn cael y tameidiau gorau os fydd e’n cerdded yn dda ar dennyn.
Mae’n hanfodol i’w deulu newydd fod â gwybodaeth dda o’r brîd gogleddol. Byddai Hunter yn elwa o gael y cyfle i wneud chwaraeon cŵn. Byddai hyn yn cadw ei feddwl a’i gorff yn y cyflwr gorau.
Gallai Hunter fyw, o bosibl, gyda phlant tawel eu hanian.
Rydym yn hapus i’w gyflwyno i gŵn wedi eu hysbaddu yn ogystal â chathod sy’n byw yn y darpar gartref.
Bydd yr holl gyflwyniadau yn cael eu cynnal yn ein canolfan.
Byddai Hunter yn elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i wneud rhagor o gynnydd o ran ei sgiliau cymdeithasol ac er mwyn iddo ddod yn aelod parchus o’r teulu.
Comments are closed.