Dyma Loki, daeth atom yn ddi-gartref. Mae e’n ‘border collie’ ifanc, hardd. Ar hyn o bryd mae e’n nerfus o’r byd mawr tu allan ond yn gwella yn gyflym ac yn datblygu hyder. Mae wedi gwneud camau enfawr ers iddo ddod atom. Mae e’n mynd allan yn rheolaidd gydag ein gwirfoddolwyr ac mae hwn yn ei helpu yn fawrr.
Fe fydd angen mwu o gefnogaeth ac hyfforddi arno er mwyn datblugu ei hyder. Mae Loki yn gi byddai yn mwynhau ac yn elwa o wneud gweithgareddau corfforol. Gan ei fod yn ‘border collie’ bydd angen ei stimiwleiddio yn feddyliol ac yn ffisegol er mwyn datblygu ei allu.
Efallai y gall Loki fyw gyda phlant hyn ond gan ei fod yn nerfus o synnau efallai y byddai cartref tawelach yn fwy addas iddo. Efallai y gall fyw gyda chwn a chathod eraill yn dibynnu ar gyflwyniadau gofalus yn y Cartref Cwn. Mae’r milfeddyg wedi cadarnhau bod Loki yn iach ac yn barod i ddod o hyd i gartref newydd.
Byddai’n gymorth petaech yn archwilio y brid ‘border collie’ cyn ceisio am Loki.
Comments are closed.