Yn gymysgedd Ci Tarw/Staffie ifanc, daeth Mr D’Arcy i’n gofal oherwydd profedigaeth. Mae e’n tua 18 mis oed. Efallai ei fod wedi colli ei fyd ond byddwn yn sicrhau ei fod yn dod i wybod beth yw cariad a gofal unwaith eto. Mae Mr D’Arcy yn gariadus iawn – mae e wir eisiau dangos i’w bobl ei fod e’n fachgen da.
Mae’n caru gêm o gwrso ac wrth ei fodd â’i deganau. Mae Mr D’Arcy hyd yn oed wedi dangos ei sgiliau nofio, mae’n dal i ddysgu ond rydyn ni’n ei gefnogi yr holl ffordd!
Mae Mr D’Arcy yn cerdded yn dda ar y tennyn, mae’n chwilfrydig pan mae allan yn crwydro.
Mae Mr D’Arcy yn dangos sgiliau ufudd-dod a chymdeithasu sylfaenol da, ond byddem yn cynghori ei fod yn cael ei gofrestru ar ddosbarthiadau hyfforddi i helpu i adeiladu bond gyda’i bobl newydd a chŵn eraill.
Bydd angen rhywun o gwmpas y rhan fwyaf o’r amser o ystyried popeth y mae wedi bod drwyddo – mae’n teimlo ychydig ar goll ar hyn o bryd druan.
Gallai o bosib fyw gyda phlant o oedran uwchradd sydd wedi arfer â chwarae garw bridiau tarw. Byddem hefyd yn hapus i gyflwyno Mr D’Arcy i gathod a chŵn eraill sydd wedi’u sbaddu.
Comments are closed.