Daeth Nancy atom ar ol i un o’r cyhoedd ei ffeindio yn crwydro. Does neb wedi gofyn amdani. Mae hi’n ferch fach hoffus iawn sydd yn croesawu pawb gyda chynffon hapus a gwen hyfryd.
Fe fydd Nancy yn gallu byw gyda theulu ac in bosib cwn eraill yn dilyn cyflwyniadau gofalus yn y Cartref Cwn.
Mae Nancy wedi cael ei sbaddu yn y Ganolfan Iechyd yn y Gwesty Cwn ac mae ein milfedyg wedi dweud ei bof yn holliach.
Fel y mae brid y dacsi mae Nancy yn hoff iawn o’i llais ei hunan wrth ddechrau cerdded a bydd angen hyffordddiant barhaol er mwyn gweithio ar hwn. Mae Nancy wrth ei bodd yn cwtso lan ac y byddai yn elwa o gartref bydd yn hapus i roi y sylw iddi. Hoffai gael cartref a pherchnogion profiadol ym myd y dacsi neu yn hytrach perchnogion sydd wedu archwilio y brid yn drwyadl.a byddant yn hyderus eu bod yn gallu ymateb i’w gofynion.
Comments are closed.