Rhowch groeso mawr i Rocky i’r gwesty. Mae e’n Staffie a ddaeth i’n gofal fel ci strae. Mae Rocky wedi magu hyder ers cyrraedd. Roedd yn amlwg yn poeni am ei amgylchoedd newydd a chymerodd beth amser i ymgartrefu.
Mae Rocky yn dal i weithio ar ei hunanhyder ond mae’n agosáu at y nod bob diwrnod. Byddem yn cynghori bod y boi bach bywiog yma’n cael ei gofrestru ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi i’w annog i ddysgu ffocws a thechnegau tawelu.
Rydyn ni’n caru sut mae’n edrych, rydyn ni wrth ein bodd ei fod yn mwynhau chwarae am oriau, rydyn ni hefyd wrth ein bodd bod Rocky yn awyddus i ddysgu. Mae gan Rocky y lefelau egni i ymgymryd â chwaraeon cŵn a’r meddwl i weithio trwy heriau newydd.
Bydd angen cartref hamddenol arno, un yn llawn anturiaethau a gemau awyr agored gan ddefnyddio tu fewn y cartref fel lle i ymlacio.
Y gorau o’r ddau fyd.
Gallai Rocky o bosibl fyw gyda chi benywaidd tawel arall sydd wedi’i sbaddu.
Nid yw Rocky yn barod i rannu cartref gyda phlant prysur felly teimlwn ei fod yn fwyaf addas ar gyfer cartref 18+.
Comments are closed.