Chow Chow yw’r anhygoel Annabella. Cyrhaeddodd i’n gofal mewn cyflwr erchyll; roedd pawb a phopeth yn codi ofn arni. Bu angen cryn dipyn o amser i’w sicrhau hi ei bod hi’n ddiogel ac na fyddai unrhyw beth yn ei niweidio eto.
Mae Annabella wedi magu hyder ac mae hi’n gwneud mor dda.
Hi yw’r ferch anwylaf ac unwaith y bydd hi’n medru ymddiried ynoch mae ganddi natur mor addfwyn o ystyried yr hyn y bu hi drwyddo.
Roedd Annabella yn ffodus bod ein person trin cotiau cŵn yn gallu achub y rhan fwyaf o’i chôt hardd. Mae ei chlust wedi ymateb yn dda i driniaeth ond bydd angen i’r milfeddyg ei gweld ambell waith eto er mwyn sicrhau ei bod yn gwella’n iawn,
Cyrhaeddodd Beth fendigedig i’n gofal yr un pryd ag Annabella. Mae Beth wedi cymryd ychydig yn hirach i ymddiried mewn pobl, ond yn araf bach mae hi’n dysgu mai ni yw ei lle diogel. Mae hi’n hapus i fynd allan ar grwydr gyda phobl newydd; mae’n hyfryd gweld ei hyder pan fydd hi’n hapus. Roedd cot Beth yn llawn clymau pan gyrhaeddodd atom; gwnaeth ein person trin cotiau cŵn iddi deimlo’n well ac roedd hi’n ferch dda tra’i bod yn cael trin ei chot.
Yn anffodus, mae gan Beth haint difrifol yn ei chlust; mae hi wedi dechrau triniaeth ac mae ein milfeddyg wedi cynghori y gallai fod angen llawdriniaeth arni os na fydd hi’n gwella.
Doed a ddelo, beth bynnag y bydd ei angen arni, byddwn ni’n ei chefnogi hi yr holl ffordd.
Bydd angen i’r ddwy ferch gael cartref lle mae’r teulu’n deall ac yn ymrwymo i’w helpu nhw i setlo ar eu cyflymder eu hunain. Cartref fydd hwnnw sy’n dangos cariad a hapusrwydd iddynt ynghyd ag un sy’n eu cadw’n ddiogel. Mae profiad gyda chŵn Chow yn hanfodol i’r merched ac yn anffodus, ni fyddant yn gallu byw gyda phlant. Mae angen cartref 18+ gydag oedolyn yn unig.
Unwaith bydd y merhced wedi ymgartrefu yn eu cartrefi newydd, rydym yn cynghori eu bod yn mynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn helpu creu perthynas gyda’r teulu newydd a pharhau gyda magu hyder.
Bydd angen sawl ymweliad er mwyn dangos cysondeb a chreu perthynas.
Comments are closed.