Merch ifanc afieithus yw Daisy sy’n groesiad o Sbaniel a Saluki. Tua blwydd i ddeunaw mis oed yw hi. Cyrhaeddodd Daisy i’n gofal oherwydd ei bod ar grwydr. Gan nad oedd modd dod o hyd i’w pherchennog, mae hi bellach yn barod i ddod o hyd i deulu newydd a fydd yn ei charu’n ddiamod. Mae Daisy yn drysor llwyr; ci hyfryd yw hi sy’n gymaint o hwyl i fod yn ei chwmni. Bydd bob dydd yn well o gael Daisy o gwmpas. Gŵyr Daisy rhai gorchmynion sylfaenol, ac mae Daisy yn un sy’n dysgu’n gyflym gan ei bod hi mor ddisglair.
Rydym yn gobeithio y caiff Daisy gyfle i barhau i ddefnyddio’i sgiliau; yn sicr byddai hi’n mwynhau gwneud chwaraeon cŵn a chael ei herio. Mae ganddi foesau da o gwmpas cŵn eraill a byddai Daisy wrth ei bodd yn cael ci yn gyfaill i rannu ei bywyd.
Byddem yn hapus i Daisy gael ei rhoi mewn cartref gweithgar gyda phlant, cŵn eraill wedi eu hysbaddu sydd gyda’r un faint o egni â hithau a chathod sy’n byw yn y darpar cartref. Dibynna hyn oll ar gyflwyniadau a wneir yn y ganolfan.
Daisy on a walk and enjoying the garden.
Comments are closed.