Cyrhaeddodd Eria, y ci tarw Ffrengig pitw fach i’n gofal oherwydd ei bod ar grwydr. Druan â’r ferch fach hon oedd yn rhy ysgafn ei phwysau o lawer ac yn dioddef o blygiadau wyneb dolurus iawn.
Byddai Eria yn ffynnu o dderbyn cariad gan ei bod hi’n gariad ei hun ac eisiau bod yn ffrind i bawb.
Mae Eria tua 18 mis – 3 oed.
Cerdda Eria yn dda ar dennyn ac mae hi wrth ei bodd yn mynd i archwilio ei chynefin.
By dai Eria yn gweddu i’r dim ar gyfer unrhyw deulu sy’n chwilio am gi. Gallai hi fyw gyda phlant, cŵn eraill sydd wedi cael eu hysbaddu neu gathod.
Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau yn y ganolfan
Cynghorwn fod Eria yn cael ei chofrestru mewn ysgol cŵn er mwyn helpu creu perthynas rhyngddi hi â’i theulu newydd.
Mae bod â gwybodaeth am y brîd brachycephalic yn bwysig iawn, gan fod cynnal a chadw yn bwysig iawn o ran eu hiechyd.
Comments are closed.