Rhowch groeso i Larry i’r gwesty. Lurcher gwallt bras yw ef, tua 4-5 mlwydd oed. Mae Larry yn fachgen golygus iawn; does ganddo fawr o hyder ar hyn o bryd a gallai wneud gyda derbyn rhywfaint o help i ddysgu sut i fod yn gi go iawn. Bob dydd mae Larry yn gwneud rhywfaint o gynnydd. Bydd angen i’w deulu newydd fod yn amyneddgar gydag ef.
Yn anffodus ‘dyw e ddim eto yn deall sut i chwarae gyda theganau, ond mae Larry yn gwibio’n chwim am y gorau. Cefnogwn hyn ac ymunwn ag ef yn ei redeg gwallgo.
Mae Larry yn chwilio am gartref llawn hwyl, a byddai’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i fagu hyder a chael ei ddadsensiteiddio i synau uchel a phethau sy’n symud yn gyflym.
Ymhen amser, gyda llawer o ofal, cariad ac anturiaethau gall Larry gyrraedd ei lawn botensial, a bod y llanc y bwriadwyd iddo fod!
Gallai Larry o bosibl fyw gyda phlant 8+ oed sydd o anian dawel, cŵn tawel o faint tebyg iddo ef a chathod sy’n byw yn y darpar cartref.
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn y ganolfan.
Comments are closed.