Dewch i gwrdd â’r hyfryd Nora!
Daeth Nora’r Chow Chow i’n gofal oherwydd ei bod ar grwydr ac mae bellach yn chwilio am ei soffa barhaol!
Mae hi’n ferch hyfryd sy’n mwynhau cwtsh yn fwy na dim ond hefyd yn hoff iawn o dro bach hamddenol yn y parc.
Ar hyn o bryd mae Nora ar raglen colli pwysau er mwyn ei helpu i baratoi ar gyfer hanner marathon Caerdydd! Bydd angen i’w theulu newydd barhau gyda hyn er mwyn iddi allu byw bywyd iach, hapus!
Gall hi fyw gyda chŵn, cathod a phlant hŷn 16+ oed yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan. Bydd angen cartref sy’n gyfarwydd â chŵn chow chow arni!
Comments are closed.