Dywedwch helo wrth ein Snoop ni ein hunain; ci tarw (bulldog) Ffrengig ifanc sydd tua 2 flwydd oed. Mae Snoop yn fachgen hapus, a chanddo sgiliau cyfathrebu da gyda chŵn eraill ac mae’n mwynhau cael cyfaill da i chwarae ag ef.
Mae Snoop wir yn hoffi sylw a maldod gan unrhyw un a fydd yn fodlon ei roi iddo. Ers iddo fod yn ein gofal mae wedi ymddwyn yn dda o amgylch pawb y mae wedi cwrdd â nhw. Byddem bob amser yn cynghori bod cŵn newydd yn cael eu cyflwyno’n araf i unrhyw ymwelydd â’r cartref.
Mae’r llanc bach bywiog hwn wrth ei fodd o gael antur. Ymateba Snoop yn dda i hyfforddiant cadarnhaol. Mae’n ymgeisydd gwych ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi.
Gallai Snoop fyw, o bosibl, gyda phlant, cŵn eraill wedi eu hysbaddu a chathod sy’n byw yn y cartref.
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn y ganolfan.
Comments are closed.