Os gwelwch yn dda a wnewch chi sibrwd helo yn dyner wrth Steveo, ein Lurcher golygus 3 coes. Pan gyrhaeddodd atom ni roedd Steveo druan yn dioddef o hen anaf i’w goes nad oedd wedi derbyn unrhyw driniaeth ar ei gyfer.
Er mwyn i Steveo allu byw bywyd o ansawdd gwell, penderfynwyd bod angen iddo gael llawdriniaeth i dynnu ei goes, gan and oedd modd ei harbed. Mae Steveo wedi dygymod â chael tair coes yn ddidrafferth. Mae cynyddu ei ymarfer corff bob dydd yn gweithio i’r dim. Wrth i’w gyhyrau ddatblygu, ac wrth i amser fynd yn ei flaen daw Steveo yn fachgen cryf a hyderus. Mae ganddo natur mor addfwyn, a’i unig ddymuniad yw cael ei garu. Mae Steveo yn chwilio am gartref gyda pherchnogion sy’n amyneddgar ac a fyddai’n gweithio ar ei gyflymder ef ei hun er mwyn sicrhau bod ei wellhad ac adferiad yn mynd yn ei flaen yn llyfn. Wrth iddo wella, gall ddysgu sgiliau newydd a chreu perthynas. Unwaith y bydd Steveo wedi gwella’n llawn byddai’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i ailddysgu sgiliau sylfaenol bywyd.
Gallai Steveo fyw o bosibl gyda phlant tra’u bod yn gallu deall ei fod angen gwella. Byddem hefyd yn hapus i’w gyflwyno i gŵn tawel a chathod.
Comments are closed.