Little Red
Croeso mawr i ein ci Bach, Little Red, Dachshund gwallt hir 6-8 mis oed. Cyrhaeddodd y ferch hardd i’n gofal yn ofnus ac yn swil. Doedd ganddi ddim syniad ble roedd hi ac mae’n trafferthi setlo i fywyd cwteri.
Mae’n amlwg nad yw Little Red wedi cael ei hamlygu i lawer o’r byd y tu allan sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad ci bach. Ar y dechrau, nid oedd hi eisiau gadael diogelwch ei cwteri, ac nid oedd hi’n gwybod sut i gerdded ar harnes a thennyn, roedd rhaid i’n gwirfoddolwyr ei chario i ffwrdd o’r cennelau er mwyn iddi gael rhywfaint o ymarfer corff a dechrau ei hyfforddiant amlygiad.
Mae Red bellach yn gallu mynd am dro ac yn mwynhau. Mae hi wrth ei bodd yn sniffio pob arogl posibl, yn chwareus iawn ac yn gwneud ‘zoomies’ bach pan fydd hi’n gyffrous.
Mae Little Red yn barhau i boeni am synau uchel a phrofiadau newydd, fodd bynnag, mae hi’n gweithio ar feithrin ei hyder gyda chymorth ein tîm ymddygiad a chefnogaeth ein staff a’n gwirfoddolwyr, mae personoliaeth y selsig bach yma’n dechrau disgleirio.
Mae’ ferch annwyl a chariadus unwaith y bydd hi’n ymddiried a bydd hi’n hapus i eistedd ar eich glin am gariad a sylw.
Oherwydd hyn, rydym yn teimlo y byddai Little Red yn fwyaf addas i gartref gyda phobl ddeallus sydd â’r amser a’r amynedd i fagu ci bach.
Bydd angen i’w pherchnogion newydd fod yn ymrwymedig ac yn gyson â’i hyfforddiant hyder parhaus ac, ymhen amser, ei chofrestru ar ddosbarthiadau ufudd-dod i ddysgu sgiliau bywyd sylfaenol iddi y mae’n amlwg wedi’u colli allan arno er mwyn sicrhau ei bod yn tyfu’n gi hapus, hyderus a chytbwys.
Bydd Little Red yn elwa o fyw gyda ci arall, sefydledig wedi’i ysbaddu, plant synhwyrol 10+ a fydd yn barchus o’i natur swil a chathod sy’n gyfarwydd â chŵn. Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau rheoledig a wneir yma yn y ganolfan.

Posing in the flowers

On a walk

Having a relax

Posing on a log
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Little Red. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.