Dyma Charlie Jack, cymysgedd Chihuahua tua 8 oed.
Daeth Charlie atom fel crwydryn, yn denau bach ac yn eithaf drewllyd, ond ar ôl cael bath haeddiannol mae bellach yn lân, yn ffres ac yn barod i ddod o hyd i’w gartref parhaol.
Mae’r bachgen bach hyfryd hwn yn hynod serchog. Mae wrth ei fodd yn cael arogleuo ar ei deithiau cerdded, cael llawer o fwythau ac mae ganddo ochr chwareus o hyd i’w rhannu gyda’i deulu newydd. Mae Charlie yn cymryd bywyd fel y daw ac nid yw’n poeni rhyw lawer am ddim.
Mae ganddo foesau da iawn ar dennyn a sgiliau cymdeithasol gwych, sy’n ei wneud yn gwmni pleserus a hawdd i dreulio amser gydag ef.
Yn seiliedig ar gyflwyniadau yn y ganolfan, gallai Charlie fyw gyda phlant, cathod sy’n gyfarwydd â chŵn a chŵn tawel sydd wedi’u hysbaddu.
Mae Charlie yn chwilio am gartref cariadus lle gall fwynhau pleserau syml bywyd, cael digon o sylw a chwtsh, a chael lle cyfforddus i ymlacio ar ddiwedd y dydd.

Charlie

Charlie

Charlie

Charlie

Charlie

Charlie
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.