Croesewch i’r cartref ein preswylydd golygus newydd, Cooper, ci Shih-tzu tua 9 oed. Crwydrodd i fewn i ysgol a daeth i’n gofal ni, ond ni chafodd ei hawlio erioed; fodd bynnag, mae bellach yn barod i ddod o hyd i’w gartref parhaol.
Pan gyrhaeddodd, roedd Cooper yn dealladwy braidd yn bryderus ac wedi’i lethu gan ei amgylchedd newydd; fodd bynnag, mae wedi ymgartrefu ers hynny ac yn teimlo’n fwy cyfforddus.
Does dim byd mae Cooper yn ei fwynhau mwy na derbyn cariad ac sylw gan ei ofalwyr newydd, a bydd yn hapus i neidio ar eich glin am gwtshis. Mae’n ymddangos nad yw Cooper yn deall y cysyniad o ofod personol unwaith y mae wedi ffurfio cwlwm gryf gyda chi.
Mae Cooper wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ymhlith y gwirfoddolwyr, sydd wedi mwynhau mynd ag ef am deithiau cerdded hir a braf ac ar anturiaethau newydd. Mae’n gydymaith cerdded gwych sydd wedi dangos ymddygiad da iawn ar y dennyn ac yn rhyngweithio’n dda â chŵn eraill sy’n mynd heibio.
Byddai Cooper yn fwyaf addas ar gyfer cartref egnïol i oedolion yn unig, gyda phobl sydd â gwybodaeth dda neu brofiad o’r brid.
Mae Cooper yn Shih-tzu nodweddiadol a all weithiau fod braidd yn hen ŵr surbêl; fodd bynnag, mae’n cyfathrebu ei deimladau’n dda pan nad yw’n teimlo’n gyfforddus. Bydd angen i’w berchnogion newydd fod yn ymwybodol o hyn a gallu parchu ei ffiniau.
Pan gyrhaeddodd Cooper, roedd yn drewi’n ofnadwy ac roedd angen bath a thriniaeth dda ar ei gôt. Oherwydd ei frid, bydd angen i’w berchnogion newydd ddeall ac ymrwymo i’w anghenion meithrin a gofal cyffredinol dyddiol er mwyn sicrhau ei fod yn aros yn hapus ac yn iach.
Gallai Cooper o bosib fyw gyda chi preswyl arall sydd wedi’i ysbaddu a chathod sy’n gyfarwydd â chŵn. Bydd hyn yn dibynnu ar gyflwyniadau rheolaidd
yma yn y ganolfan..



Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Little coop. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.