Casper
Mae Casper yn gi tarw Ffrengig (French bulldog) ifanc; credwn ei fod tua 2-3 mlwydd oed. Daeth i’n gofal oherwydd ei fod wedi ei gael yn crwydro. Mae bellach yn barod i symud ymlaen i’w ddyfodol parhaol gyda’i deulu newydd. Mae wedi setlo i mewn i’r drefn brysur yn y ganolfan, mae’n ŵr bach llawen. Mae Casper yn hapus i fynd allan am dro a bydd yn aros yn amyneddgar i gael gwisgo’i harnais.
Gall gymryd ychydig o amser i ymddiried mewn pobl ddiarth ond mae’n annwyl iawn unwaith y bydd yn gyfforddus. Ymddengys nad yw Casper yn poeni am gŵn eraill ac mae’n hapus i’w hanwybyddu yn ystod troeon. Bu’n ymweld â’r siop ‘Pets at Home’ gyda’n gwirfoddolwyr ac roedd yn fachgen da iawn.
Rydym yn hapus i’w gyflwyno i unrhyw gŵn sy’n byw mewn darpar cartref ac sydd wedi eu hysbaddu. Gallai Casper o bosibl fyw gyda chathod; bydd hyn yn seiliedig ar gyflwyniadau yn y ganolfan.
Teimlwn y gallai Casper fyw gyda phlant sy’n parchu ei ofod.
Mae Casper yn raddol dechrau arfer gyda cael ei blygiadau wyneb a’i ben ôl wedi eu glanhau bob dydd. Mae angen parhau i wneud cynnydd gyda’r dasg hon, ond mae wrth ei fodd, fodd bynnag, pan fydd yn cael trêt bach am fod yn fachgen da wrth gael ei drin.
Mae Casper yn gi bach gwych ac rydym yn gobeithio na fydd yn llusgo’i draed yma’n rhy hir.
Comments are closed.