Rocket
Hwn yw ein roced poced! Ci bwli ifanc yw e ac fe gyrhaeddodd i’n gofal ar ôl bod ar grwydr.
Mae Rocket yn fachgen hapus, mae’n llawn hwyliau ac yn barod am antur unrhyw bryd. Mae’n ymateb yn dda iawn ar droeon; bydd yn edrych ar y bobl sydd yn mynd am dro gydag ef er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn! Byddai Rocket yn ymgeisydd gwych ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi, mae’n hynod ddeallus.
Ymddengys fod ganddo ddiddordeb mawr mewn cŵn eraill pan allan yn archwilio. Rydyn ni’n teimlo y gallai fyw, o bosib, gydag anifeiliaid anwes eraill sydd wedi’u hysbaddu.
Gallai Roced hefyd fyw, o bosib, gyda phlant sy’n gyfarwydd â chŵn o frîd tarw.
Mae’n ifanc, mae’n llawn hwyl a chariad; dyna yw ein disgrifiad o Rocket ein roced poced fach! Os oes gennych dwll siâp bwli yn eich calon, bydd y bachgen hwn yn bendant yn ei lenwi… a llawer mwy.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Rocket. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.