Rhowch groeso i Kirk i’r gwesty. Pan ddaeth Kirk atom roedd mewn cyflwr ofnadwy. Mae e’n ‘Bichon’/pwdl croes a thua pum mlwydd oed..
Er oedd Kirk yn amlwg yn anghyfforddus iawn oherwydd ei got mi ddangosodd ymddygiad anhygoel o dda wrth i’r staff weithio arno.
Mae Kirk yn hynod o addfwyn, yn dda iawn allan ar y llinyn ac wrth ei fodd yn plesio pawb.
Y gobaith yw y byddai yn gallu byw gyda phlant ac anifeiliaid anwes sydd wedi eu sbaddu.
Fe fydd rhaid i Kirk mynd i dorri ei got yn rheolaidd er mwyn ei gadw ef mewn cyflwr da. Dylid cofio hyn wrth ystyried ei fabwysiadu.
Comments are closed.