A wnewch chi plis groesawu Bronson i’r gwesty. Roedd e’n lwcus iawn i gael ei ddarganfod a dod i’n gofal, roedd e’ wedi cael ei adael wrth ymyl ffordd brysur felly gallai hynny fod wedi bod yn drychinebus i Bronson ac aelodau’r cyhoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn ei fod wedi dod atom a’i fod yn ddiogel.
Mae’n ymddangos ei fod yn mwynhau cwmni cŵn eraill, mae wedi dangos moesau da ar deithiau cerdded. O ystyried ei frîd a’i natur egnïol, gall cael ci arall yn gwmni fod yn dda iddo. Un sy’n gallu ei ysgogi yn feddyliol ac yn gorfforol. Bydd ymgysylltu gyda’r meddwl a’r corff trwy chwarae yn rhoi ymdeimlad o foddhad.
Mae Bronson wedi addasu’n dda i’w amgylchoedd newydd, a bydd cael tasgau neu weithgareddau sy’n addas i’w ddiddordebau a’i allu yn sicr o gyfrannu at ei les a’i hapusrwydd cyffredinol.
Bydd Bronson angen cael ei frwsio a’i olchi’n ddyddiol a bydd angen mynd ag ef i le pampro cŵn tua tair gwaith y flwyddyn. Bydd hyn yn helpu i gadw ei gôt yn y cyflwr gorau. Bydd Bronson yn elwa o gael ei gofrestru ar ddosbarthiadau ystwythder.
Comments are closed.