Rhybudd tywydd Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024

Bydd Cartref Cwn Caerdydd ar gau Dydd sadwrn y 7fed o Ragfur gan fod rhybudd tywydd goch.
Peidiwch a cheisio teithio I lawr i’r cartref cwn, bydd y gatiau wedi’u cloi. Cymerwch ofal pawb.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Cofrestrwch i fod yn gerddwr cŵn

Cofrestru i fynd â chŵn am dro

Os hoffech ddod yn gerddwr cŵn gwirfoddol, llenwch ein ffurflen.

Cofrestrwch i fod yn wirfoddolwr cerdded cŵn drwy gofrestru eich manylion a chadw lle i un o’r sesiynau sefydlu. Bydd y sesiwn sefydlu yn cymryd tua 1 awr a bydd yn cael ei chynnal yng Nghartref Cŵn Caerdydd.

A all unrhyw un a gadwyd ar sesiwn gyflwyno’r llynedd wneud cais eto. Yn anffodus oherwydd nifer uchel y ceisiadau a gawsom y llynedd ni allwn gysylltu â phawb.

  • Rhaid i chi fod dros 18 oed i wirfoddoli.
  • Cofiwch ddod â dull adnabod sy’n cynnwys llun arno gyda chi.
  • Darllen ein Canllawiau ar gyfer pobl sy’n mynd â chŵn am dro
  • Caiff y ffurflenni eu dosbarthu yn y sesiynau sefydlu i chi eu llofnodi, ond mae croeso i chi lawrlwytho a dod â chopi o’r ffurflen sydd eisoes wedi’i llofnodi gyda chi i arbed amser.
  • Ar ôl i chi gwblhau sesiwn sefydlu byddwn yn rhoi rhif personol i chi ac yna byddwch yn gallu mynd â’ch ci cyntaf am dro!
  • Cadwch rif eich cerddwr yn ddiogel gan y bydd angen hyn arnoch bob tro y byddwch yn cerdded ci.

Yr un rheol euraidd yw PEIDIWCH FYTH â chaniatáu i unrhyw un o’n cŵn ni ddod i gyswllt ag UNRHYW gi arall wrth fynd â chŵn am dro. Mae hyn yn arwain at broblemau. Gallwch osgoi cŵn eraill drwy ofyn i bobl sy’n cerdded tuag atoch roi digon o le i chi, drwy groesi’r ffordd, drwy gadw’r ci ar dennyn byr ar ochr arall eich corff i bwy bynnag sy’n cerdded heibio neu drwy droi i gerdded i’r cyfeiriad arall. Os daw i’r amlwg eich bod wedi caniatáu i gŵn eraill ddod i gyswllt agos â’n cŵn ni, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y gofrestr cerddwyr cŵn. Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw hyn.

Gall staff wrthod gwirfoddolwyr os canfyddir nad ydynt yn dilyn y
canllawiau.

Cyffredinol

  • Cewch gerdded cŵn saith diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 4pm.
  • Ar adegau prysur, efallai y bydd angen i chi aros am gi cyn mynd am dro.
  • Wrth groesi’r ffordd, cymerwch yr holl ragofalon arferol a sicrhewch eich bod yn sefyll i ffwrdd o’r cwrbyn wrth aros i groesi. Daliwch y ci ar dennyn byr – bydd hyn yn cael ei ddangos i chi yn y sesiwn sefydlu.
  • Lle bo’n bosibl, dewch â’ch tennyn slip eich hun (nid coler a thennyn arferol).
  • Cofiwch roi gwybod i staff os yw eich cyfeiriad neu rifau ffôn yn newid.

Cyn mynd am dro

  • Cofiwch fewngofnodi a nodwch eich rhif cerddwr a’ch rhif ffôn ar y ffurflen mewngofnodi/allgofnodi yn y dderbynfa.
  • Cofiwch wisgo eich siaced gwelededd uchel sydd ar gael yn y dderbynfa.
  • Cofiwch fynd â bagiau baw ci gyda chi.
  • Cofiwch roi wybod i staff os oes gennych chi neu’ch cleient anghenion
    penodol (e.e. cŵn bach/tawel yn unig).
  • Cofiwch gario ffôn symudol i’n ffonio mewn unrhyw argyfwng.
  • Peidiwch â mynd â chi nad ydych yn hyderus ag ef am dro. Gofynnwch i’r staff am gi arall.
  • Peidiwch â gadael i’r ci rydych yn mynd ag ef am dro ddod i gyswllt â chi
    arall – Rheol euraidd

Wrth fynd am dro

  • Cofiwch ddefnyddio bagiau baw ci os yw’r ci’n gadael baw. Mae’n drosedd peidio â chodi baw ci a gall olygu na fyddwch yn cael mynd â chŵn am dro yn y dyfodol. Rhowch y bag yn y bin ar dop y lôn.
  • Cofiwch gadw rheolaeth o’r ci ar bob adeg.
  • Cofiwch ffonio’r Cartref Cŵn ar 2071 1243 os bydd unrhyw beth yn digwydd wrth fynd am dro.
  • Cofiwch ddychwelyd i’r Cartref Cŵn ar unwaith os ydych yn teimlo, ar ôl
    gadael, nad yw’r ci’n addas.
  • Cofiwch ddilyn y llwybrau a argymhellir ar y mapiau a ddarperir a chadwch i ffwrdd o gwrbyn y llwybr cerdded wrth aros i groesi’r ffordd.
  • Cadwch y ci ar dennyn byr ar yr adeg hon.
  • Cofiwch groesi ffyrdd prysur ar groesfannau diogel.
  • Peidiwch â rhoi eich wyneb na chaniatáu i unrhyw un arall roi eu hwyneb yn agos at y ci/cŵn dan eich goruchwyliaeth chi.
  • Peidiwch â gadael i’r ci fod oddi ar y tennyn ar unrhyw adeg.
  • Peidiwch â gadael i unrhyw un dan eich goruchwyliaeth ddal y tennyn os nad ydynt yn medru gwneud hynny.
  • Peidiwch â gadael i’r ci fynd yn rhy agos neu ddod i gyswllt â chŵn eraill – Rheol euraidd

Yn ôl yn y Cytiau

  • Arhoswch y tu allan os oes cŵn yn y dderbynfa cyn dychwelyd y ci.
  • Cofiwch roi baw ci yn y bin y tu allan i’r drws os nad ydych eisoes wedi ei
    daflu.
  • Cofiwch roi gwybod i’r staff os oes unrhyw beth wedi digwydd wrth fynd am dro neu os oes unrhyw faterion corfforol neu ymddygiadol wedi dod i’r amlwg wrth fynd â’r ci am dro.
  • Cofiwch allgofnodi ar y ffurflen yn y dderbynfa. Cofiwch ddychwelyd eto!

Cerddwyr cofrestredig

Os ydych chi’n gerddwr cofrestredig gallwch chi nawr droi i fyny yn ystod ein horiau cerdded cŵn: 8am – 4.45pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac 8am-4pm o ddydd Gwener i ddydd Sul. Nodwch fod yn rhaid i gŵn ddychwelyd i’r cŵn erbyn yr amseroedd gorffen. Rydym ar gau o hanner dydd – 1pm bob dydd ac rydym yn cau am hanner dydd ar wyliau banc.

Diolch

Llwybrau cerdded lleol sy’n addas i gŵn

Mae nifer o lwybrau o amgylch y cartref sy’n addas ar gyfer mynd â chŵn am dro.

Outdoor Cardiff logo

Mae parciau a mannau gwyrddion Caerdydd yn golygu mai’r ddinas hon yw un o’r dinasoedd gwyrddaf yn y DU.

Mae gwefan Awyr Agored Caerdydd  yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o lwybrau cerdded o 1 milltir o hyd i deithiau hirach sydd oll ar garreg eich drws!

Baw Cŵn

Mae’n bosib y rhoddir  Cosb Benodedig o £80 ‘yn y fan a’r lle’ i chi os cewch eich dal yn methu â glanhau baw eich ci.

Brig

© Cartref Cŵn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddHygyrchedd