Diweddariad y cartref cŵn

Mae toriad mawr yn y pŵer yn y Cartref Cŵn ac nid yw’r rhyngrwyd, unrhyw gyfrifiaduron na TG yn gweithio. Mae’r ffonau’n cael eu dargyfeirio i ffôn symudol felly dylech ond ffonio os yw’r mater yn un brys er mwyn i ni allu delio â’r rhain mor gyflym â phosibl. Nid yw’r negeseuon e-bost yn cael eu monitor heddiw. Gobeithio bydd hyn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd y dydd ar 25 Chwef.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Profiad gwaith

Dewch i weithio gyda ni

Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn cynnig y cyfle i bobl ifanc dros 15 oed wneud lleoliad profiad gwaith yma am wythnos neu ddwy. Gallwn hefyd gynnig lleoliadau yn ystod gwyliau’r ysgol.

Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau i bobl sy’n hyfforddi, myfyrwyr coleg a myfyrwyr Prifysgol. Gallant fod am rai diwrnodau’r wythnos dros sawl mis, neu mewn lleoliadau bloc.

Os nad ydych yn perthyn i unrhyw un o’r grwpiau uchod, ond rydych yn hŷn na 15 oed, mae dal modd i chi wneud cais.

Os oes diddordeb gennych, gallwch gyflwyno cais isod. Byddwn yn ymateb i chi mewn e-bost.

Gwneud cais am leoliad profiad gwaith

Oherwydd y nifer uchel o geisiadau, ni allwn dderbyn rhagor o geisiadau tan y Flwyddyn Nesaf.
Brig

© Cartref Cŵn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddHygyrchedd