Diweddariad y cartref cŵn

Mae toriad mawr yn y pŵer yn y Cartref Cŵn ac nid yw’r rhyngrwyd, unrhyw gyfrifiaduron na TG yn gweithio. Mae’r ffonau’n cael eu dargyfeirio i ffôn symudol felly dylech ond ffonio os yw’r mater yn un brys er mwyn i ni allu delio â’r rhain mor gyflym â phosibl. Nid yw’r negeseuon e-bost yn cael eu monitor heddiw. Gobeithio bydd hyn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd y dydd ar 25 Chwef.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Microsglodynnu

Microsglodynnu eich ci

Microsglodynnu yw’r dull mwyaf effeithiol a diogel o adnabod eich ci yn barhaol. Mae microsglodyn yn cael ei osod dan groen eich ci heb unrhyw boen a phan gaiff ei sganio gan warden cŵn neu filfeddyg, bydd eich manylion cyswllt chi yn ymddangos o gronfa ddata.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich manylion.

Rydym yn codi £12 am y gwasanaeth hwn.  Mae hefyd yn ofynnol yn ôl y gyfraith ers mis Ebrill 2016 eich bod yn microsglodynnu eich ci pan fo’n cael ei frechiad cyntaf/ar ôl 8 wythnos, a bod rhaid diweddaru’r manylion.

Gwnewch apwyntiad ar-lein: https://therescuehotelhealthcentre.com/ neu trwy ein ffonio ar 02921 202975

Child playing doctor with a dog

Peidiwch ag anghofio diweddaru eich manylion

Mae’n bwysig cofio diweddaru manylion eich ci pan symudwch gartref neu newid eich rhif ffôn.
Yn anffodus, nid yn unig y mae’n ofyniad cyfreithiol arnoch i sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gyfredol, ond mae’r microsglodyn yn ddiwerth heb hynny oherwydd efallai na allwn gysylltu â chi os deuwn o hyd i’ch ci.

Brig

© Cartref Cŵn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddHygyrchedd