Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, y Rheolydd Data at ddibenion y data a gesglir. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaeth.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn casglu’r data canlynol:
- Gwybodaeth adnabod bersonol – Enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn.
Mae hyn yn cael ei gasglu at ddibenion gwneud cais i ailgartrefu ci, dod yn gerddwr cŵn cofrestredig, maethu ci, hawlio ci wedi’i atafaelu / strae a rhoi gwybod am gi coll neu ofyn am drosglwyddo eich ci i’w ailgartrefu.
Sut rydym yn casglu eich data?
Byddwch yn rhoi’r rhan fwyaf o’r data rydym yn ei gasglu i Gartref Cŵn Caerdydd yn uniongyrchol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:
- Cofrestru i ailgartrefu ci.
- Cofrestru i ddod yn gerddwr cŵn.
- Hawlio ci wedi’i atafaelu / strae
- Rhoi gwybod am gi coll
- Gofyn am drosglwyddo eich ci i’w ailgartrefu
- Maethu ci
- Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth drwy e-bost.
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn casglu eich data fel y gallwn:
- Gysylltu â chi ynglŷn ag ailgartrefu / cŵn coll / trosglwyddo ci i’w ailgartrefu.
- Diweddaru microsglodyn cŵn sydd wedi’u hailgartrefu i adlewyrchu eich gwybodaeth fel sy’n ofynnol gan Reoliadau Microsglodynnu 2016.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
Rhennir eich data personol â’r sefydliadau partner a restrir;
- PetPlan Insurance – Ar eich cais at ddibenion cael hyd at 4 wythnos o yswiriant anifeiliaid anwes am ddim.
- Yr Heddlu – Os ceir cais o dan Atodlen 2 Deddf Diogelu Data 2018.
- Cwmni microsglodynnu perthnasol
- My Charms – y trydydd parti sy’n rheoli ein system PATCH.
Sut rydym yn storio eich data?
Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn storio’ch data yn ddiogel ar systemau a gyriannau diogel y Cyngor, a system trydydd parti ddiogel, o’r enw PATCH. Dim ond cyflogeion ac Ymddiriedolwyr a staff Cartref Cŵn Caerdydd sydd â mynediad i’r systemau hyn.
Bydd Cartref Cŵn Caerdydd yn cadw eich enw, eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif cyswllt am 6 blynedd. Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn dileu eich data o’n systemau.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Cartref Cŵn Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Gartref Cŵn Caerdydd am gopïau o’ch data personol.
Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Gartref Cŵn Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gartref Cŵn Caerdydd gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Gartref Cŵn Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gartref Cŵn Caerdydd roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthod prosesu – Mae gennych hawl i wrthod Cartref Cŵn Caerdydd rhag prosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gartref Cŵn Caerdydd drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Ein sail gyfreithlon
Mae’r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio’r sail gyfreithlon dros brosesu eich data fel sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni: (e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu’n angenrheidiol i chi gyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
Canllawiau Statudol: Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cŵn Strae) 1992.
Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
Mae gwefan Cartref Cŵn Caerdydd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen ei pholisi preifatrwydd hi.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 21 Hydref 2025.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Cartref Cŵn Caerdydd neu’r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.
E-bostiwch ni yn: diogeludata@caerdydd.gov.uk
Neu ysgrifennwch atom:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.
Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Cartref Cŵn Caerdydd wedi mynd i’r afael â’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.