Becky yw’r gariad fach hon. Mae hi’n gi tarw (‘Bulldog’) 5 oed a gyrhaeddodd i’n gofal gan ei bod yn crwydro a neb wedi ei hawlio. Mae hi wedi magu cymaint o hyder. Pan gyrhaeddodd yma yn gyntaf, roedd hi’n ofnus iawn o bobl ac ni fyddai’n gadael i unrhyw un fynd yn agos ati. Ar ôl ychydig ddyddiau o wneud ffrindiau a theimlo’n ddiogel, hi oedd y ferch anwylaf. Rydym wedi gweithio’n galed i gyflwyno pethau normal iddi ond hoffai Becky i’w phobl newydd fod yn bwyllog wrth gyflwyno profiadau newydd bywyd. Mae hi wedi cael ei chyflwyno’n llwyddiannus i gi tarw benywaidd arall ac fe wnaethon nhw ddod yn ffrindiau yn syth. Mae’n debyg y byddai Becky yn hapus yn byw gyda chi arall sydd wedi cael ei ysbaddu. Gallai Becky fyw gyda chath hefyd; bydd hyn yn seiliedig ar gyflwyniadau yn y ganolfan.
Mae Becky yn hoffi cerdded ac edrych o’i chwmpas unwaith y bydd hi’n gyfforddus i wneud hynny.
Mae’n amlwg bod Becky wedi bod trwy gymaint o drawma yn ei bywyd ac mae’n haeddu’r cyfle i wybod sut deimlad yw bod mewn cartref llawn cariad.
Mae hi angen amser, tawelwch a chartref sy’n llawn cariad.
Rydym wastad yn argymell bod pob ci yn cael ei gofrestru ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi, er mwyn helpu creu perthynas gyda phobl newydd a meithrin sgiliau newydd.
Comments are closed.