Dewch i gwrdd â Freddie, croesfrid Malinois gwrywaidd 8 mis oed sy’n llawn cyffro ac egni. Daeth yr Heddlu o hyd iddo yn crwydro ar ei ben ei hun a daethant ag ef i Gartref Cŵn Caerdydd ond does neb wedi dod draw i’w hawlio.
Mae’n caru teganau a danteithion, gemau a pheli tenis. Mae Freddie yn fachgen clyfar a bydd angen cartref lle y caiff wneud llawer o bethau i’w alluogi i ddefnyddio ei ymennydd. Mae’n annwyl ac yn mwynhau llawer o sylw gan bobl. Gan ei fod yng nghyfnod arddegau ei fywyd, bydd angen cymdeithasu parhaus, gweithgareddau strwythuredig a digon o amser ar gyfer ymarfer corff. Mae’n dal i ddefnyddio’i geg i deimlo ar hyn o bryd felly bydd angen amynedd a rheolaeth synhwyrol nes ei fod yn aeddfedu. Ar hyn o bryd mae Freddie yn cael ei hyfforddi tra’n gwisgo mwgwd ar ei safn ac mae’n derbyn hwn yn gwbl ddifai; mae’n fachgen clyfar iawn sydd wir wrth ei fodd yn plesio pobl.
Mae’r brid Malinois Gwlad Belg yn gŵn sydd wedi arfer gweithio a chanddynt reddf corlannu; yn bendant nid ydynt yn gweddu’r gwangalon! Bydd angen lefelau uchel o ymarfer corff ar Freddy, sesiynau chwarae egnïol a byddai’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi a gwneud rhyw fath o chwaraeon ar gyfer cŵn. Bydd angen rhywun hyderus i’w drin sydd gyda phrofiad o fridiau gwaith. Yn sgil y ffaith ei fod yn defnyddio’i geg , ni fyddai’n addas i fyw gydag unrhyw un o dan 16 oed tra’i fod yn dal i dderbyn hyfforddiant.
Mae Freddie yn dangos diddordeb mewn cŵn eraill ac o bosib y byddai’n gallu byw gyda ci brîd tebyg gyda llawer o egni ac sydd wedi cael ei ysbaddu.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Freddie. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.