Dewch i gwrdd a Ronald. Un o’n ffrindiau newydd.
Credwn fod Ronald yn Gorgi croes sydd tua chwe mlwydd oed. Mae e’n gi bach estron a chyrhaeddodd y cartref mewn cyflwr ofnadwy ac mi oedd angen driniaeth arno yn syth. Mae wedi bod yn gwella yn araf o’i lawdriniaeth gydag ei rieni maeth ac mae wedi derbyn y gofal mwya cariadus. Canlyniad ei lawfeddygyniaeth yw bod angen bach fwy o sylw arno ar ol bod i’r ty bach er mwyn lleihau risgiau o UTI yn y dyfodol. Rhaid i’w rieni newydd ddeall hyn a bod yn ymwybodol o unrhyw gostiau milfeddygol yn y dyfodol. Erbyn hyn gyda Ron yn gwella o’i driniaeth gallwn weld ei gariad tuag at bobl. Mae’n blodeuo yn ei gartref maeth ac yn arddangos ei ochr chwareus. Mae yn wych ar y llinyn ond yn ddi-hyder gyda chwn eraill a diethron. Mi oedd Ron yn ddi-hyder iawn pan gyrhaeddodd ond erbyn hyn mae’n adeiladu ei hyder o amgylch pobl newydd. Unwaith mae wedi adeiladu ffudd mae’n dwlu am ffws a sylw. Bydd rhaid i’w berchnogion newydd bod yn ymwybodol iawn o hyn wrth ei gwrdd am y tro cyntaf.
Byddai Ron yn baodeuo fel unig gi mewn teulu ac fe fyddai angen i’w berchnogion bod adref rhan fwyaf o’r amser er mwyn adeiladu ei hyder yn y byd mawr tu allan. Mae Ron yn gwerthfawrogi amgylchedd tawel ac heddychlon. Fe fydd Ron yn cael ei fonitro yn glos ac i ni yn hyderus y bydd yn gallu ac yn barod i fynd at ei gartref newydd o ddechrau mis Ebrill.
Comments are closed.