Muffin
Chow Chow 3 mlwydd oed yw Little Miss Muffin sydd wedi dod yn ei hôl atom, yn anffodus, ar ôl bod mewn cartref maeth am gyfnod hir. Mae Muffin yn deillio o arferion bridio gwael ac mae hi wedi cael sawl triniaeth i gywiro ei phlygiadau wyneb a’i chadw’n gyffyrddus. Mae hi wedi brwydro’n daer ac wedi bod trwy broses iacháu hir ac erbyn hyn y cyfan sydd ei angen arni yw cartref parhaol lle y gall hi fod fel tywysoges.
RHAID i deulu newydd Muffin gael profiad da o’r brid Chow Chow ac wedi bod yn berchen ar un o’r cŵn hyn yn y gorffennol. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau sydd ddim yn bodloni’r meini prawf hyn. Maent yn gŵn cymhleth sydd angen llawer o gynnal a chadw ar eu cotiau a phlygiadau wyneb. Er bod Muffin wedi cael sawl triniaeth mae ganddi olwg cyfyng o hyd a bydd angen i’w pherchnogion ei chadw’n ddiogel pan fydd hi allan oherwydd hynny. Mae gan Muffin ei phersonoliaeth echreiddig ei hun y bydd unrhyw un sy’n caru cŵn Chow yn ei ddeall ac yn ei garu. Mae hi’n gwarchod ei bwyd yn ei chenel ac yn y cartref a bydd angen rheolau a hyfforddiant llym yn y maes hwn. Mae ei gallu hi i oddef cael ei chribo a’i brwsio yn gwella bob dydd, ond bydd angen bod yn bwyllog wrth i rywun proffesiynol drin ei chôt.
Bydd angen i Muffin fod yr unig dywysoges fach flewog yn y cartref. Nid yw hi’n ymateb mewn ffordd adweithiol i gŵn eraill yn ystod troeon ac mewn gwirionedd mae hi’n eithaf chwareus. Fodd bynnag, mae hi’n ei chael hi’n anodd rhannu lle yn y cartref gyda chŵn eraill a byddai’n well ganddi fod yn flaenoriaeth ei pherchennog newydd. Efallai y byddai hi’n gallu byw gyda chath, yn dibynnu ar gyflwyniadau yn y ganolfan.
Bydd angen cartref heb blant ar Muffin. Mae hyn yn rhannol oherwydd ei bod yn gwarchod bwyd, ond hefyd oherwydd ei golwg sy’n gyfyng. Weithiau gall ddychryn wrth i rywun fynd ati neu gyffwrdd â hi gan na all bob amser weld beth sy’n dod tuag ati. Bydd angen cartref gyda strwythur arni er mwyn iddi allu addasu’n hawdd i’w hamgylchedd newydd.
Comments are closed.